Diogelwch wrth fynd allan i hela am falwod
Nid yw falwod yn beryg ond mae'n ddoeth i gymryd rhai rhagofalon pan allan yn casglu malwod:
- Dylid bob tro dychwelyd malwod i'r man a'u casglwyd
- Mae cloddiau a ffosydd ochr ffordd yn hoff lefydd i Cepaea; cymerwch ofal wrth gasglu mewn mannau fel hyn
- Peidiwch â chymryd risg wrth hela ar glogwyni neu drwy ddringo coed ayyb.
- Dylid ail osod gwrthrychau naturiol megis boncyffion os ydych yn eu symud
- Dylid wastad dilyn y Cod cefn gwlad pan allan yn hela am falwod
- Byddwch yn ofalus os ydych chi'n casglu ar eich pen eich hunain, yn ddelfrydol dylid casglu gyda rhywun arall
- Caiff Cepaea yn aml eu ffeindio ble ceir sbwriel, defnyddiwch fenig garddio a ffon i droi sbwriel drosodd.















