Cefndir Evolution MegaLab
Mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio'r malwod haenog am nifer o flynyddoedd ac maent wedi canfod bod y mathau â chregyn tywyllach yn fwy cyffredin mewn coetiroedd ble mae lliw cefndir brown, tra mewn glaswellt mae malwod haenog yn dueddol o fod yn fwy golau, melyn a stribedi. Credir bod yr amrywiaeth hyn yn addasol, o leiaf yn rhannol gan ddarparu cuddliw.
Mae adar yn bwyta malwod haenog (gweler Cwestiynau a Ofynnir yn Aml)
Rydym eisiau eich cymorth i ddarganfod os yw ysglyfaethu gan adar dal yn bwysig, oherwydd bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn y nifer o fronfreithod mewn rhai mannau yn y 30 mlynedd diwethaf. Os oes llai o fronfreithod o gwmpas, bydd disgwyl i'r gwahanol falwod bod yn llai ffyddlon i'w tirweddau arbennig nag yr oeddynt arfer a gwneud.
Newid hinsawdd
Mae hefyd patrwm daearyddol yn lliw'r cregyn sydd rydym yn credu wedi newid mewn ymateb i'r cynhesu i'r hinsawdd dros y 30 mlynedd diwethaf. Roedd cregyn tywyllach arfer a bod yn fwy cyffredin yn y gogledd o'i gymharu â'r de. Credwn fod hyn gan fod cregyn tywyllach yn cynhesu'n gynt mewn golau haul, gan alluogi i anifeiliaid fod yn fwy gweithgar nag malwod sydd â chregyn mwy golau mewn mannau oerach.
Cynorthwywch ni i ddarganfod os yw lliwiau cregyn mwy golau yn fwy cyffredin yn y Gogledd nag yr oeddynt arfer a bod, nawr bod yr hinsawdd wedi cynhesu.
Esblygiad (gweler Cwestiynau a Ofynnir yn Aml)
Rydym wedi casglu ynghyd yr holl gofnodion o batrymau cregyn malwod haenog a allwn ddod o hyd iddo. Mae miloedd lawer ohonynt, wedi eu casglu'n bennaf o leiaf 30 mlynedd yn nol. Gwnewch eich arolwg eich hunain a pan fyddwch chi cofrestr a mewnbynnwch eich data bydd y wefan yn chwilio ein cronfa ddata hanesyddol yn awtomatig ac yn dangos unrhyw newidiadau yn yr ardal i chi. Cerwch i'r adran Cyfarwyddiadau i gychwyn.















