Cwestiynau Technegol a Ofynnir yn Aml.
Sut mae'r Evolution MegaLab yn canfod os yw esblygiad wedi digwydd?
Rydym yn defnyddio prawf 'Chi Square' i gymharu'r niferoedd o'r prîf fathau o falwod yn y sampl hanesyddol gyda'r sampl rydych chi wedi ei gyflwyno. Mae'r adborth yn yr e-byst a fyddwch yn ei dderbyn wedi ei seilio ar os yw'r prawf hwn yn canfod newid sylweddol (p< 0.05) neu beidio. Noder gellir disgwyl i un allan o 20 (neu 5%) o samplau i fod yn 'sylweddol' ar y lefel p < 0.05 drwy siawns. Am y rheswm hwn rydym yn cynnig dadansoddiad gwyliadwrus o'r holl ddata. Wrth gwrs bydd yr astudiaeth derfynol gan ddefnyddio'r holl ddata yn llawer mwy soffistigedig yn ystadegol.
Pam bod fy e-bost adborth yn dweud bod maint y sampl yn rhy fach i wneud cymhariaeth â sampl hanesyddol?
Er mwyn cynnal prawf 'chi square' dilys mae angen i o leiaf pum malwen o bob math yn y tabl niferoedd a ddisgwylir. Os yw un ai'r sampl hanesyddol neu'r sampl newydd (neu'r ddau) yn rhy fach, efallai na fydd hyn yn digwydd a ni ellir gwneud prawf.
Sut mae'r Evolution MegaLab yn gweithio allan pa sampl hanesyddol i'w gymharu â fy sampl i?
Rydym yn edrych ar y sampl hanesyddol agosach a gafodd ei chynnal o fewn radiws o 5km i'ch un chi. Rhaid i'r ddau sampl fod wedi cael eu gwneud yn yr un math o gynefin.
Be fydd yn digwydd i'r holl ddata a gasglir gan yr Evolution MegaLab?
Bydd y data Cepaea a fyddwch yn darparu i ni yn dod yn rhan o'r set data a bydd yn cael ei ddefnyddio mewn astudiaeth wyddonol. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio gan wyddonwyr eraill ac efallai'n cael ei osod ar y We pan fydd yr astudiaeth wedi ei gwblhau, ond ni fydd unrhyw fanylion personol yn cael ei gadw yn y set data hon. Bydd eich sampl(au) yn ddienw.
Pa mor ddiogel yw'r data personol rwy'n darparu gyda'r cofrestru?
Rydym dim ond yn gofyn am gyfeiriad ebost dilys, enw defnyddiwr a chyfrinair. Mae'r cyfrinair yn ddiogel a ni fydd eich cyfeiriad ebost nag enw defnyddiwr yn cael ei rannu ag unrhyw rai eraill nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â rhannu'r wefan. Byddwn ond yn defnyddio eich cyfeiriad ebost er mwyn cysylltu â chi mewn cysylltiad â'r MegaLab.
Pam ddylwn wneud y cwis?
Am ddau reswm:
- Er mwyn ymgyfarwyddo eich hunain â'r malwod a beth i chwilio amdano cyn i chi fynd allan i chwilio amdanynt.
- Er mwyn i ni ddilysu eich bod yn gallu adnabod newidiadau Cepaea yn gywir.















