Cwestiynau a Ofynnir yn aml am Falwod
Beth yw rannau corff malwen Cepaea?
- Teimlyddion: Dau bâr a ellir eu tynnu'n ôl, ar wyneb uchaf pen y falwen, defnyddir i alluogi'r falwen i deimlo pethau. Mae'r llygaid wedi eu lleoli ar ddiwedd y teimlyddion hir uchaf; mae'r rhai isaf yn delio ac arogl.
- Mandwll anadlu: Twll bach yn ochr y corff a ddefnyddir i anadlu
- Ceg: Ar waelod y pen mae'n cynnwys radwla, tafod sy'n torri lawr bwyd y falwen
- Min y Gragen: Ymyl y gragen
- Troed: Y rhan meddal, cyhyrog o'r falwen sy'n galluogi i'r falwen symud
- Cragen: Gorchudd caled, troellog sy'n amddiffyn y gragen
- Pen y gragen: Brig y Gragen
Beth yw gylchred bywyd y falwen Cepaea?
Mae gan y ddwy rywogaeth Cepaea gylchred bywyd tebyg iawn i'w gilydd. Yn gyffredinol maent yn gaeafgysgu, yn cymharu o gwmpas mis Mai ac yn dodwy wyau yn yr haf. Maent yn cymryd tua thair blynedd i ddod yn oedolion.
Sut mae Cepaea yn atgenhedlu?
Mae malwod yn fenyw ac yn wryw, gan olygu bod ganddynt system atgenhedlu wrywaidd a benywaidd, ond rhaid i falwod atgenhedlu er mwyn cael eu ffrwythloni.
Am ba mor hir mae Cepaea yn byw?
Unwaith mae malwod yn oedolion ydyn nhw'n gallu byw am rai blynyddoedd? Nid ydynt yn cael eu hystyried nes iddynt ddatblygu min i'r gragen.
Beth a sut mae Cepaea yn bwyta?
Yn gyffredinol mae malwod yn bwyta planhigion; maent hefyd yn bwyta algâu a defnydd sy'n darfod ac yn ffurfio rhan bwysig o'r rhwydwaith fwyd. Mae ganddynt filoedd o ddannedd bach iawn sydd wedi eu lleoli ar ruban o'r enw radwla. Mae hwn yn gweithredu fel rhathell gan rwygo'r bwyd yn ddarnau. Cepaea fel arfer bydd malwod ond yn bwyta llystyfiant sy'n marw neu'n darfod.
Be sy'n bwyta malwod Cepaea?
Mae gan falwod nifer o ysglyfaethwyr gan gynnwys y fronfraith, ac adar mwy megis pïod Mae chwistlod, llygod, llygod mawr a draenogod hefyd yn eu bwyta yn ogystal â phryfaid gan gynnwys magïen a rhai chwilod.
Yr ysglyfaeth fwyaf amlwg o'r Cepaea yw'r fronfraith. Nid ydynt yn gallu gwasgu'r malwod ar eu pen eu hunain nag yn gallu eu llyncu'n gyfan gyda'r gragen. Mae angen i fronfreithod felly falu'r gragen ar graig neu wyneb caregog i gael gafael ar y falwen y tu fewn. Caiff y darnau o graig hyn eu galw'n einionau a gellir eu hadnabod yn hawdd o'r darnau o gregyn sydd o'u cwmpas.















