Cwestiynau Esblygiad a Ofynnir yn Aml.
Beth yw esblygiad?
Esblygiad yw newid dros genedlaethau yn y priodweddau etifeddol a chaiff eu darganfod mewn poblogaethau. Mae esblygiad yn drefn araf a graddol, ond yn y 3,500,000,000 o flynyddoedd ers i fywyd gychwyn ar y Ddaear, mae llawer o amser wedi bod iddo sicrhau amrywiaeth mawr yn y bywyd a welwn heddiw o'r cyndeidiau cyffredin a rannir gan bob rywogaeth byw.
Beth yw addasiad?
Addasiad yw priodwedd etifeddol sy'n gwella'r siawns y bydd organedd yn goroesi ac yn atgenhedlu mewn amgylchiadau neu amgylchedd penodol. Er enghraifft, mae fel arfer amledd uwch o gregyn tywyllach mewn poblogaethau Cepaea sy'n byw mewn cynefinoedd cysgodol megis coedtiroedd nag mewn cynefinoedd agord megis glaswelltiroedd. Credir bod hyn oherwydd bod lliwiau cregyn sy'n gweddu'r cefndir (yn dywyllach mewn cynefinoedd cysgodol) yn darparu gwell cuddliw yn erbyn adar sy'n bwyta'r malwod. Mae cregyn lliw tywyll mewn cynefinoedd cysgodol felly yn addasiad i'r cynefinoedd hyn a mae cregyn lliw golau yn addasiad i gynefinoedd agored.
Beth yw dewis naturiol?
Dewis naturiol yw'r mecanwaith ble mae esblygiad yn cynhyrchu addasiad. Yw'r broses ble fydd y priodweddau etifeddol sy'n gwella siawns yr unigolyn o gael epil yn cynyddu dros genhedlaethau ar draul priodweddau llai manteisiol.
Beth yw'r effaith sylfaenydd?
Caiff rai poblogaethau eu sefydlu (cychwyn) gan nifer fechan o unigolion a bydd eu disgynyddion yn rhannu priodweddau etifeddol y rhai cyndadau hyn. Gan fod Cepaea yn wryw-benyw, gall hyd yn oed un falwen sefydlu poblogaeth newydd os yw wedi paru cyn cyrraedd y lleoliad newydd. Er bod llawer o boblogaethau Cepaea yn amlffurf, gall rai cynnwys dim ond un neu ddau newid oherwydd yr effaith sylfaenydd. Mae hyn i'w weld yn glir y tu allan i gynefin brodorol y Cepaea, megis poblogaethau a chafodd eu cyflwyno i Ogledd America.
Pam bod Cepaea yn cael eu defnyddio ar gyfer astudiaeth esblygol?
Mae Cepaea yn organebau model da iawn ar gyfer astudiaeth o esblygiad yn y gwyllt oherwydd eu bod yn cario eu genynnau ar eu cefnau. Yn fwy penodol, gallwch gofnodi cyfansoddiad geneteg y boblogaeth drwy edrych ar briodweddau cregyn. Mae'r priodweddau hyn yn addasol ac amrywiol mewn Cepaea, felly mae'n bosib edrych ar effeithiau'r dewis naturiol. Oherwydd y manteision hyn, mae set ddata mawr o wybodaeth hanesyddol ar boblogaethau Cepaea a allwn bellach ei ddefnyddio fel sylfaen i'r archwiliad gan Evolution MegaLab.
Pam bod poblogaethau'r Cepaea yn amlffurf?
Cwestiwn ardderchog! (Dyna ffordd gwyddonydd o ddweud 'nid ydym yn gwybod yn iawn'). Yr ateb fwyaf tebygol yw bod crefyn rhai amlffurf yn atebol i amryw o wahanol ffynonellau o ddewis naturiol (e.e. adar a hinsawdd) a bod y rhain yn amrywio ar raddfa eithaf lleol, gan gynnwys efallai o fewn cynefinoedd.
Beth yw sail geneteg Cepaea cregyn amlffurf?
Mae'n gymhleth braidd! Y fersiwn syml yw hyn: Mae lliw'r gragen yn cael ei reoli gan locws geneteg o'r enw C, sydd ag alelau ar gyfer cregyn brown, pinc neu felyn yn y drefn drechol hynny (brown %gt; pinc > melyn). Mae gan locws arall o'r enw B ddau alel sy'n rheoli presenoldeb/absenoldeb bandiau (absenoldeb yn trechu presenoldeb). Mae'r locysau C a B wedi cysylltu (ar yr un cromosom).
Mae gan drydydd locws o'r enw U, nad yw wedi ei gysylltu â C nag B ddau alel: band canol a 5 band. Mae'r cyntaf yn drechol i'r olaf.
Mae mwy o fanylion yr eneteg i'w gael mewn adolygiad a baratowyd yn arbennig i'r Evolution MegaLab gan yr Athro Laurence Cook (dolen isod).















