Cwestiynau Map a Ofynnir yn Aml
Ar y dudalen hon, gallwch ddysgu am sut i lywio'r mapiau o Ewrop sydd yn y tudalennau cofnodion Presennol a Hanesyddol.
Sut ydw i'n dod o hyd i leoliad ar y map?
I ddarganfod lleoliad ar y map gallwch ddefnyddio'r panel rheoli ar yr ochr chwith uchaf Er mwyn chwyddo mewn ac allan defnyddio'r botymau [ + ][ - ] drwy glicio arnynt, neu gallwch lusgo'r llithrydd Gallwch symud y map o gwmpas drwy ddefnyddio'r botymau cyfeiriad uwchben y botymau chwyddo.
Neu, gallwch ddefnyddio’r map yn uniongyrchol drwy glicio arno a'i ddewis. Er mwyn chwyddo i mewn cliciwch fotwm chwith y llygoden dwywaith, ac i chwyddo allan cliciwch dwywaith ar y botwm de. Bydd y map yn canoli i'r man a gliciwyd arno wrth chwyddo.
Oes ffordd fwy cyflym i chwyddo'r map?
Er mwyn chwyddo i mewn yn sydyn gallwch drio clicio ddwywaith ar y man rydych yn dymuno, bydd hyn yn canoli'r map, yna defnyddiwch y llithrydd i symud yn agosach. Bydd hyn yn eich galluogi i osgoi sawl lefel chwyddo ar unwaith.
A allaf edrych ar y map mewn gwahanol ffyrdd?
Gallwch newid rhwng Map, Lloeren, a Hybid drwy glicio ar fotymau ar ochr dde'r map.
Sut ydw i'n mewnbynnu manylion y lleoliad ar y sampl?
Mae dwy ffordd y gallwch fewnbynnu manylion lleoliad eich sampl:
- Gan ddefnyddio rheolydd y map ar ymyl chwith uchaf y map, chwyddwch i mewn i'r pwynt ar y map a chliciwch ar y map i osod pin ar safle eich sampl. Bydd hyn yn gosod gwybodaeth y lledred a hydred yn awtomatig.
- Gallwch deipio eich cyfesurynnau lledred a hydred eich hunain yn y blwch manylion lleoliad. Efallai y byddwch yn canfod hyn yn ddefnyddiol os nad ydych yn gallu nodi safle eich sampl yn fanwl ar y map. Efallai bod hyn oherwydd bod eich ardal o dan gwmwl neu heb ei fapio mewn digon o fanylder. Os ydych yn defnyddio cofnodwr GPS i nodi lleoliad eich safle, sicrhewch ei fod wedi ei osod i gofnodi lledred a hydred degol ac nid graddau/munudau/eiliadau.
Pam na allaf weld y mapiau?
Os ydych ac unrhyw broblemau gyda'r safle hwn gan gynnwys edrych ar fapiau, dyma rhai pethau i'w ystyried.
- mae'r safle hwn angen i javascript a cookies fod wedi eu galluogi.
- os ydych yn defnyddio porwr hyn, efallai bydd angen i chi feddwl am uwchraddio i fersiwn mwy diweddar.
- os yw edrych ar fapiau yn broblematig, gall ailddechrau eich porwr gynorthwyo o bryd i'w gilydd.
- ceisiwch bwyso ctrl-F5 i adnewyddu eich porwr.
Sut gallaf edrych ar ganlyniadau o ardal benodol?
Er mwyn gweld data o leoliad penodol defnyddiwch yr offer map i chwyddo i mewn i'r lleoliad rydych yn dymuno.















